P-06-1356 Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elliott Morrison, ar ôl casglu cyfanswm o 10,310 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar ddydd Sadwrn 13 Mai 2023, collodd Ashley Thomas Rogers ei fywyd yn drychinebus ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477 wrth deithio i gyfeiriad Penfro. Ei farwolaeth ef yw’r drydedd farwolaeth ar y rhan honno o'r ffordd mewn 12 mlynedd. Ar ben hynny, mae nifer ddi-rif o ddamweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd ar y rhan honno a adwaenir yn lleol fel 'man gwael' ar gyfer damweiniau traffig ar y ffordd. Digon yw digon. Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y peth iawn a blaenoriaethu bywydau pobl dros bwysau cyllidebu dibwys.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerfyrddin a Dwyrain Sir Benfro
· Canolbarth a Gorllewin Cymru